Home Page
 
About Us
 
Artists
 
Contact Us
 
Order Items
Oriel Cymru Gallery - Artistiaid

David Jones

David Jones (1895-1974) artist ac awdur sydd yn cael ei gyfri yn un o artistiaid pwysicaf Prydain yn yr ugeinfed ganrif. Ganwyd yn Brockley Caint yn 1895, r'oedd ei Dad, goruchwyliwr argraffi yn LLundain, yn Gymro wedi ei eni yn Drefynnon, adnabyddodd David bob amser ei hun a holl bethau Cymreig, r'oedd ei fam yn hanu o deulu Eidalaidd, merch i grefftwr gwneud hwylbrennau a blociau ar y Thames. R'oedd David Jones yn artist a awdur o ddychymig unigryw a chryf. Byddai bob amser yn crybwll fod ei luniau a'i arysgrifau wedi ei gwneud, ac yn aml byddai yn arwyddo ei luniau gyda 'Dafydd a'm gwnaith'. Mae un o'i lyfrau "In Parenthesis" yn cael ei gyfri yn un o chlasuron y Rhyfel Byd Cyntaf a chafodd ei ddarlledi ar Radio4 ar Ddydd Coffa'r Rhyfel Byd 2004. Yn 1921 aeth i fyw i Gymuned Gatholig Ditchling gyda Eric Gill ac yna i Gapel-y-ffin. Ar l cyfnod gadawodd i sefydlu ei enw ei hun. Mae yn cael ei gyfri fel yr artist-awdur mwyaf ers Blake. Dylanwadwyd ei waith gan yr Eglwys Gatholig, traddodiadau Celtaidd, Rhufain, Y Brenin Arthur a chwedlau Clasurol.

Gwener-Aphrodite Print o dyfrlliw gwreiddiol gan David Jones (1960). Cafodd y llun gwreiddiol ei ddangos yn Oriel y Tate yn Arddangosfa Adolygol David Jones yn 1981 ac mae yn nawr mewn casgliad preifat. Mae copi o nodiadau am "Gwener" wedi ysgrifenni gan David Jones yn cael ei cynnwys gyda'r llun.

I weld fwy o wybodaeth ac enghreifftiau o'i gwaith
rhowch glic ar enw'r artist neu ar y llun.

Gwener
David Jones: Gwener
Print rhediad gyfyngedig o 150 Gwasg Curwen. Maint y ddelwedd fel y gwreiddiol 380mm x 570mm (15" x 22")
Pris: 450



Cliciwch yma i weld eich archeb bresennol

Dewiswch gwaith artistiaid eraill:

Nacâd y we a thelerau ei defnyddio

Safle © 2003 Oriel Cymru Gallery
© y lluniau a'i artistiaid priodol
Ni chaniateir unrhyw gopo na dosbarthiad o'r lluniau